Wisconsin
| Arwyddair | Forward |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | Afon Wisconsin |
| Prifddinas | Madison |
| Poblogaeth | 5,893,718 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | On, Wisconsin! |
| Pennaeth llywodraeth | Tony Evers |
| Cylchfa amser | UTC−06:00, Cylchfa Amser Canolog, America/Chicago |
| Gefeilldref/i | Hessen, Jalisco |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, Upper Midwest, Great Lakes region, Midwestern United States |
| Sir | Unol Daleithiau America |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 169,640 km² |
| Uwch y môr | 320 metr |
| Gerllaw | Llyn Michigan, Llyn Superior, Afon Mississippi |
| Yn ffinio gyda | Michigan, Minnesota, Illinois, Iowa, Ontario |
| Cyfesurynnau | 44.5°N 89.5°W |
| US-WI | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | government of Wisconsin |
| Corff deddfwriaethol | Wisconsin Legislature |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Wisconsin |
| Pennaeth y Llywodraeth | Tony Evers |
![]() | |
Mae Wisconsin yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd rhwng Afon Mississippi i'r gorllewin, Llyn Michigan i'r dwyrain a Llyn Superior i'r gogledd. Mae Iseldiroedd y Canolbarth yn ildio i Ucheldir Superior yn y gogledd, sy'n rhan o Darian Canada ac yn cynnwys nifer o lynnoedd a choedwigoedd. Rhoddwyd Wisconsin i'r Unol Daleithiau gan Brydain Fawr yn 1783. Gwelwyd mewnlifiad mawr o'r dwyrain yn y 1820au. Daeth yn diriogaeth yn 1836 ac yna'n dalaith yn 1848. Madison yw'r brifddinas.
Llysenw Wisconsin yw "Talaith y Broch" (Saesneg: the Badger State), am fod broch Americanaidd i'w weld ar ben arfbais y dalaith.[1]

Dinasoedd
[golygu | golygu cod]Mae'r dinasoedd yn Wisconsin gyda phoblogaeth o 50,000 neu fwy (amcangyfrifiad Cyfrifiad 2005) yn cynnwys:
- Milwaukee, poblogaeth 578,887 (ardal fetroplitaidd 1,709,926), dinas fwyaf
- Madison, 221,551 (588,885), prifddinas y dalaith
- Green Bay, 101,203 (295,473)
- Kenosha, 95,240, rhan o ardal fetropolitaidd Chicago
- Racine, 85,855, rhan o ardal fetroplitaidd Milwaukee
- Appleton, 70,217 (213,102)
- Waukesha, 67,658, rhan o ardal fetropolitaidd Milwaukee
- Oshkosh, 63,485 (159,008)
- Eau Claire, 62,570 (148,337)
- Janesville, 61,962 (154,794)
- West Allis, 58,798, rhan o ardal fetropolitaidd Milwaukee
- Sheboygan, 50,792
- La Crosse, 50,287 (128,592)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 21.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) www.wisconsin.gov
