Kentucky
| Arwyddair | United we stand, divided we fall |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | Afon Kentucky, commonwealth |
| Prifddinas | Frankfort |
| Poblogaeth | 4,505,836 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | My Old Kentucky Home, Blue Moon of Kentucky |
| Pennaeth llywodraeth | Andy Beshear |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, America/Efrog Newydd |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
| Sir | Unol Daleithiau America |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 104,659 km² |
| Uwch y môr | 230 metr |
| Gerllaw | Afon Mississippi, Afon Ohio, Afon Big Sandy |
| Yn ffinio gyda | Gorllewin Virginia, Ohio, Indiana, Virginia, Tennessee, Missouri, Illinois |
| Cyfesurynnau | 38°N 85°W |
| US-KY | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Kentucky General Assembly |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Kentucky |
| Pennaeth y Llywodraeth | Andy Beshear |
![]() | |
Lleolir talaith Kentucky yn nwyrain canolbarth yr Unol Daleithiau; mae'n gorwedd i'r dwyrain o Afon Mississippi. Mae'n cynnwys Mynyddoedd Appalachia yn y dwyrain, ardal y Bluegrass yn y canol, a gwastadedd yn y gorllewin. Mae afonydd Afon Tennessee ac Ohio yn llifo trwy'r de-orllewin. Mae'n dalaith wledig iawn gyda thradodiadau gwerin unigryw. Archwiliodd Daniel Boone yr ardal yn 1769 a daeth nifer o ymsefydlwyr ar ôl hynny. Daeth yn dalaith yn 1792. Frankfort yw'r brifddinas.
Llysenw Kentucky yw "Talaith y Glaswellt Glas" (Saesneg: the Bluegrass State) sydd yn cyfeirio at y gweunwellt (bluegrass) sydd yn enwog am fagu ceffylau.[1]

Siroedd
[golygu | golygu cod]Ceir 120 o siroedd yn Indiana ac yn eu plith mae Swydd Owen (County Owen), a alwyd ar ôl Abraham Owen (1769-1811), milwr. Hanodd ei hen, hen, hen daid a nain Humphrey a Catherine Owen o Nannau ger Dolgellau.[2]
Dinasoedd Kentucky
[golygu | golygu cod]| 1 | Louisville | 597,337 |
| 2 | Lexington | 295,803 |
| 3 | Bowling Green | 58,067 |
| 4 | Owensboro | 57,265 |
| 5 | Covington | 40,640 |
| 6 | Hopkinsville | 31,577 |
| 7 | Richmond | 31,364 |
| 8 | Florence | 29,951 |
| 9 | Georgetown | 29,098 |
| 10 | Henderson | 28,757 |
| 14 | Frankfort | 25,527 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 34.
- ↑ "Hanes llinach Abraham Owen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-13. Cyrchwyd 2021-02-04.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) kentucky.gov
