Neidio i'r cynnwys

Poseidon

Oddi ar Wicipedia
Poseidon
Enghraifft o:duw dŵr, duw Groeg, duw Olympaidd Edit this on Wikidata
Rhan oDeuddeg Olympiad Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/05ql5 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Poseidon, cerfun yn ninas Copenhagen

Duw'r môr ym Mytholeg Roeg oedd Poseidon (Hen Roeg: Ποσειδῶν), yn cyfateb i Neifion (Lladin: Neptunus) ym mytholeg Rhufain. Roedd hefyd yn dduw ceffylau a daeargrynfeydd.

Roedd yn fab i Cronos a Rhea ac yn frawd i Zews a Hades, ac roedd ganddo blant niferus; ei wraig oedd Amphitrite. Wedi'r rhyfel rhwng y duwiau a'r Titaniaid, rhannodd y tri brawd y ddaear rhyngddynt; yr awyr i Zews, y môr i Poseidon a'r isfyd i Hades. Roedd yn brif dduw nifer o ddinasoedd Groegaidd, yn cynnwys Corinth, er iddo golli cystadleuaeth ag Athena i benderfynu pwy fyddai prif dduw Athen.