Demeter
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch ei gwella drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. (Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yn y categori Categori:Dim-ffynonellau.)(Ionawr 2010) |
| Enghraifft o: | duw Groeg, duwdod amaethyddol, duwies, cymeriad chwedlonol Groeg, duw Olympaidd |
|---|---|
| Rhan o | Deuddeg Olympiad |
| Enw brodorol | Δημήτρα |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0296l |
| Quora | Demeter |

Duwies ym mytholeg Roeg ac un o'r Deuddeg Olympiad oedd Demeter (Hen Roeg: Δημήτηρ). Roedd yn dduwies grawn, ffrwythlondeb a'r tymhorau, ac yn cyfateb i Ceres ym mytholeg Rhufain.
Roedd yn ferch i'r Titaniaid Cronos a Rhea ac yn chwaer i Poseidon, Hades, Hestia, Hera a Zews. Roedd Persephone, Zagreus, Despoena, Arion, Plutus a Philomelus yn blant iddi. Yn aml, gelwid ar Demeter a Kore ("yr wyryf") fel to theo ('"y ddwy dduwies").
Roedd Dirgelion Eleusis, a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig â hi, yn arbennig y chwedl amdani hi a'i merch, Persephone. Roedd Persephone wedi ei chipio gan Hades, duw'r isfyd. Wedi i Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwe hedyn pomegranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan oedd yn Hades nid oedd tyfiant; felly y cafwyd y tymhorau.
Y Deuddeg Olympiad
|
|---|
|
Apolon · Aphrodite · Ares · Artemis · Athena · Demeter · Dionysos · Hephaestos · Hera · Hermes · Poseidon · Zews |