To Kill a Mockingbird
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Harper Lee |
| Cyhoeddwr | Lippincott |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 11 Gorffennaf 1960 |
| Dyddiad cyhoeddi | 11 Mehefin 1960 |
| Genre | Bildungsroman, Southern Gothic, social fiction, legal fiction |
| Olynwyd gan | Go Set a Watchman |
| Cymeriadau | Atticus Finch, Boo Radley, Jem Finch, Scout Finch |
| Prif bwnc | hiliaeth |
| Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
| Lleoliad y gwaith | Alabama, De'r Unol Daleithiau |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0jqbz |
Nofel gan Harper Lee a gyhoeddwyd yn 1960 ydy To Kill a Mockingbird. Bu'n nofel llwyddiannus o'r cychwyn cyntaf, gan ennill y Wobr Pulitzer, a bellach fe'i hystyrir yn glasur yn llenyddiaeth Americanaidd. Seiliwyd plot a chymeriadau'r nofel yn fras ar yr hyn welodd yr awdures ymhlith ei theulu a'i chymdogion, yn ogystal â rhywbeth a ddigwyddodd nepell o'i chartref yn 1936, pan oedd yn 10 mlwydd oed. Mae'r nofel yn enwog am ei chynhesrwydd a'i hiwmor, er gwaetha'r ffaith ei bod yn delio a materion difrifol megis trais rhywiol a hiliaeth. Ystyrir cymeriad y tad yn y stori, Atticus Finch, yn arwr moesol ac yn symbol o onestrwydd ar gyfer cyfreithwyr. To Kill a Mockingbird oedd yr unig lyfr i Lee gyhoeddi tan Go Set a Watchman ar 14 Gorffennaf 2015. Mae Lee yn parhau i ymateb i effaith ei nofel, er iddi ymwrthod ag unrhyw gyhoeddusrwydd personol ers 1964.