Rhithwir
| Math | efelychiad, realiti estynedig, lle rhithwir |
|---|---|
| Y gwrthwyneb | bywyd go iawn |
| Rhan o | bydysawd rhithwir |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07_ny |
| Thesawrws y BNCF | 7999 |
| Quora | Virtual-reality |

Byd afreal wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur ydy rhithrealiti[1] (Saesneg: virtual reality) a ddechreuwyd oddeutu'r 1980au. Caiff ei ddefnyddio i roi profiad o lefydd gwahanol i'r defnyddiwr e.e. Second Life neu goden-hedfan ble mae'r defnyddiwr yn mynd drwy'r broses o hedfan awyren (efelychiad) oddi fewn i goden neu mewn ystafell bwrpasol. Ar hyn o bryd, profiad i'r llygad a'r glust ydy rhithrealiti, er fod ambell synnwyr arall yn dechrau ymddangos e.e. cryndod ac arogl. Gelwir y bodau digidol yn afatar.
Datblygiad o rhithrealiti (a dalfyrir yn Saesneg yn A.R.) ydy gor-realaeth (Saesneg: Augmented Reality) sy'n brofiad byw o'r byd go-iawn ond fod haen o wybodaeth digidol i'w weld yn ogystal e.e. meddalwedd Wikitude ar ffôn clyfar fel iPhone gyda marciwr yn dangos gwybodaeth am y gwrthrychau a welir ar gamera'r ffôn.
Mae marchnad AR / VR eisoes wedi dod yn farchnad biliwn doler a rhagwelir ei fod yn parhau i dyfu ymhell y tu hwnt i farchnad $ 120 biliwn o fewn ychydig flynyddoedd.[2]
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Yn 1999 lansiwyd The Matrix i'r sgrin fawr, ffilm a oedd yn ymchwil dychmygol o hyd a lled byd rhithwir, neu rhithrealiti dychmygol (Simulated Reality) wedi'i greu gan beiriannau deallus.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "https://termau.cymru/". Cyrchwyd 2025-12-21. External link in
|title=(help) - ↑ Toptal - Realiti Rhithwir yn y Diwydiant Modurol
- ↑ Adolygiad Saesneg o'r ffilm; adalwyd 06/02/2012.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Mixed Reality Scale - Milgram and Kishino’s (1994) Virtuality Continuum paraphrase with examples