Merfyn ap Rhodri
Gwedd
| Merfyn ap Rhodri | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 g |
| Bu farw | 903 |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | Teyrnas Powys |
| Tad | Rhodri Mawr |
| Mam | Angharad ferch Meurig |
| Plant | Llywelyn ap Merfyn |
Brenin Powys, yn ôl pob tebyg, yn ystod rhan olaf y 9g oedd Merfyn ap Rhodri (bu farw 904).
Roedd Merfyn yn un o feibion Rhodri Mawr, oedd yn frenin rhan helaeth o Gymru. Ar farwolaeth Rhodri yn 878, rhannwyd ei deyrnas rhwng tri o'i feibion. Cafodd Anarawd ap Rhodri, yr hynaf o'r brodyr yn ôl pob tebyg, Wynedd a daeth Cadell ap Rhodri yn rheolwr Seisyllwg. Nid oes cofnod pa ran a gafodd Merfyn, ond credir mai Powys ydoedd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911)