Online Mendelian Inheritance in Man
| Enghraifft o: | cronfa ddata fiolegol, cronfa ddata ar-lein, sefydliad |
|---|---|
| Iaith | Saesneg |
| Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
| Gwefan | https://www.omim.org |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04kdx2j |
Cronfa ddata sy'n catalogio pob afiechyd gyda chydran genetaidd ydy'r prosiect Online Mendelian Inheritance in Man. Pan yn bosib mae'r cronfa ddata yn cysylltu'r afiechyd gyda'r genyn priodol yn y genom dynol gan ddarparu cyfeiriadau ar gyfer ymchwil pellach ac adnoddau er mwyn dadansoddi'r genyn catalogedig.
Fersiynau
[golygu | golygu cod]Ceir llyfr yn seiliedig ar y prosiect ac ar hyn o bryd mae yn ei ddeuddegfed argraffiad. Gelwir y fersiwn arlein yn Online Mendelian Inheritance in Man (OMIM).
Y broses grynhoi
[golygu | golygu cod]Casglwyd a phroseswyd y wybodaeth yn y gronfa ddata hwn o dan arweiniad Dr. Victor A. McKusick ym Johns Hopkins University, a chyda cymorth tîm o olygyddion ac ysgrifenwyr gwyddonol. Caiff erthyglau perthnasol eu hadnabod, trafod ac ysgrifennu yn y cofnodion perthnasol yng nghronfa ddata MIM.