Medd
Gwedd
| Math | diod feddwol, gwirodlyn o fel |
|---|---|
| Deunydd | mêl, dŵr, burum |
| Yn cynnwys | dŵr, burum |
| Enw brodorol | Mead |
| Dynodwyr | |
Diod feddwol wedi ei gwneud yn bennaf o fêl, dŵr, a burum yw medd. Dywedir ei fod yn un o ddiodydd alcoholaidd hynaf Ewrop sydd wedi bod yn boblogaidd yn bennaf yn y gogledd, lle na ellir magu grawnwin yn llwyddiannus at ddiben cynhyrchu gwin.
Ceir llawer o gyfeiriadau at fedd mewn barddoniaeth Gymraeg, cyn belled yn ôl â'r Gododdin.