Macau
| Math | rhanbarth gweinyddol arbennig, dinas-wladwriaeth, dinas fawr, anheddiad dynol, cyrchfan i dwristiaid, rhestr o diriogaethau dibynnol, tiriogaeth tollau Tsieina |
|---|---|
| Poblogaeth | 682,100 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Gorymdaith y Gwirfoddolwyr |
| Pennaeth llywodraeth | Ho Iat Seng, Sam Hou Fai |
| Cylchfa amser | Macau Standard Time |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Ioan Fedyddiwr |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg, Mandarin safonol, Cantoneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Arwynebedd | 115.3 km² |
| Uwch y môr | 22 metr |
| Yn ffinio gyda | Guangdong |
| Cyfesurynnau | 22.19°N 113.5381°E |
| Cod post | 999078 |
| CN-MO | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Government of Macau |
| Corff deddfwriaethol | Legislative Assembly of Macau |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Executive of Macau |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ho Iat Seng, Sam Hou Fai |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Heritage of Portuguese Influence |
| Manylion | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $30,124 million, $21,979 million |
| Arian | Macanese pataca, Doler Hong Cong |
| Cyfartaledd plant | 1.243 |
Rhanbarth Gweinyddol Arbennig sy'n perthyn i Weriniaeth Pobl Tsieina yw Macau (neu Macao). Mae'n cynnyws Gorynys Macau a dwy ynys (Taipa a Coloane) a leolir yn nelta Zhu Jiang (Afon Perl) yn ne-ddwyrain y wlad. Mae'n ffinio â thalaith Guangdong ac mae Hong Cong yn gorwedd 17 milltir i'r dwyrain.
Gweinyddwyd Macau gan Bortiwgal o 1557 hyd 1999, gan ei gwneud hi'r wladfa Ewropeaidd olaf yn Asia ar adeg ei throsgwlyddo yn ôl i Tsieina. Ymsefydlodd masnachwyr o Bortiwgal gyntaf ym Macau yn y 1550au. Ym 1557, cafodd Macau ei rhentu i Bortiwgal gan Ymerodraeth Tsieina fel porthladd masnach. Gweinyddodd Portiwgal y ddinas o dan awdurdod a sofraniaeth Tsieiniadd tan 1887, pan ddaeth Macau yn wladfa i'r ymerodraeth Borthiwgalaidd. Cafodd sofraniaeth ei throsglwyddo'n ôl i Tsieina ar Ragfyr 20fed 1999. Mae Cyd-Ddatganiad Tsieina-Portiwgal a Chyfraith Sylfaenol Macau'n mynnu bod Macau'n gweithredu gyda lefel uchel o annibyniaeth tan o leiaf 2049, hanner can mlynedd ar ôl y trosglwyddo.
O dan bolisi "un wlad, dau gyfundrefn", mae Llywodraeth Ganolog y Bobl Gweriniaeth Pobl Tsieina'n gyfrifol am amddiffyn y diriogaeth ac am faterion tramor tra bod Macau'n parhau i gynnal ei chyfundrefn gyfreithiol, heddlu, arian cyfredol, polisi tollau a pholisi mewnfudo. Mae Macau'n cyfrannu i sefydliadau rhyngwladol a digwyddiadau sydd ddim angen i'w haelodau feddiannu sofraniaeth genedlaethol.

Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Camões Grotto
- Casino Lisboa
- Eglwys Gadeiriol Sant Pawl
- Fortaleza de Mong Há
- Fortaleza do Monte
- Pont Lotws
- Senedd
- Teml Na Tcha
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Ho Iat Seng
- Fernando Chui
- Edmund Ho (g. 1955), gwleidydd
- Alex Fong Chung-Sun (g. 1963), actor
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |

