Game of Thrones


Cyfres deledu ffantasi ydy Game of Thrones a grewyd ar gyfer HBO gan David Benioff a D. B. Weiss. Mae'r gyfres deledu'n addasiad o gyfres o nofelau A Song of Ice and Fire gan George R. R. Martin, ac enw'r llyfr cyntaf oedd A Game of Thrones. Cafodd y gyfres deledu ei ffilmio mewn stiwdios yn Belfast a mannau eraill yng ngogledd Iwerddon, Malta, Croatia, Gwlad yr Iâ, Moroco, yr Alban, Sbaen a'r Unol Daleithiau. Cafodd ei lansio ar sianel HBO yn yr Unol Daleithiau ar 17 Ebrill 2011 a darlledwyd y bennod olaf un ar 19 Mai 2019, gyda 73 pennod dros wyth cyfres. Yng ngwledydd Prydain mae'n cael ei darlledu ar sianel Sky Atlantic.
Yn 2011-3 ystyriwyd y gyfres fel prif ysbrydoliaeth y genre ffantasi ac yn gyfrifol am ei boblogeiddio drwy Ewrop ac UDA.[1] Mae'n cynnwys enwau Cymraeg a lled-Gymraeg, ac i raddau'n debyg i nofelau J. R. R. Tolkien, ac mae ynddi lawer iawn o olygfeydd o bobl noeth, rhyw a llosgach. Roedd Sean Bean yn actio un o'r prif rannau yn y gyfres gyntaf: Lord Eddard "Ned" Stark, pennaeth y teulu Stark a Peter Dinklage yn actio'r corrach Tyrion. Kit Harington sy'n chwarae rhan Jon Snow yn y gyfres, ac mae Emilia Clarke hefyd yn serennu fel Daenerys Targaryen.[2]
Ymddangosodd nifer o actorion Cymreig yn y gyfres. Rhwng 2011–2016 bu Owen Teale yn chwarae'r cymeriad Ser Alliser Thorne a bu Mark Lewis Jones yn chwarae Shagga yn nhair pennod cyntaf y gyfres gyntaf.[3] Chwaraeodd Iwan Rheon[4] rhan y seicopath sadistaidd Ramsay Snow – the Bastard of Bolton mewn 20 pennod rhwng 2013 a 2016.
Cast
[golygu | golygu cod]-
Emilia Clarke (Daenerys Targaryen)
-
Jason Momoa (Khal Drogo)
-
Peter Dinklage (Tyrion Lannister)
-
Iwan Rheon (Ramsay Snow – the Bastard of Bolton)
-
Charles Dance (Tywin Lannister)
-
Sean Bean (Ned Stark)
-
Kit Harington (Jon Snow)
-
Harry Lloyd (Viserys Targaryen)
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Mewn adolygiad yn y Times dywedodd Caitlin Moran, "Game of Thrones is one of the most thrilling TV shows ever made."
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Joel (March 30, 2012). "Mainstream finally believes fantasy fans". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-27. Cyrchwyd April 5, 2012.
- ↑ Hollywood Life; Archifwyd 2013-03-10 yn y Peiriant Wayback Mawrth 7, 2013
- ↑ Golwg; Cyfrol 26, Rhif 41; 26 Mehefin 2014.
- ↑ Golwg Cyfrol 25; Rhif 43; 11 Gorffennaf 2013.