Derry
| Math | dinas, tref ar y ffin, Capital of Culture (designation) |
|---|---|
| Poblogaeth | 85,016 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Derry |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 387 km² |
| Gerllaw | Afon Foyle |
| Cyfesurynnau | 54.9917°N 7.3417°W |
| Cod post | BT47, BT48 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Derry City and Strabane District Council |
![]() | |
Dinas yng Ngogledd Iwerddon yw Dinas y Deri[1] neu Derry (Gwyddeleg: Doire[2] neu Doire Cholm Chille). Mater dadleuol yw pa ffurf ar yr enw a ddefnyddir yn Saesnegː fel rheol, mae'r Unoliaethwyr yn galw'r ddinas yn "Londonderry" a chenedlaetholwyr yn ei galw'n "Derry".
Saif yr hen ddinas ar lan orllewinol Afon Foyle; mae'r ddinas erbyn hyn ar y ddwy lan. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2001 yn 83,652, gyda 90,663 yn yr ardal ddinesig. Mae'n agos i Swydd Donegal a ffin Gweriniaeth Iwerddon. Yn draddodiadol, sefydlwyd y ddinas gan y sant Colum Cille. Y digwyddiadau enwocaf yn ei hanes yw Gwarchae Derry yn 1688 - 1689 a Bloody Sunday ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972, pan saethwyd 13 o brotestwyr hawliau sifil yn farw gan filwyr Prydeinig, gyda un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Canolfan Amelia Earhart
- Eglwys Gadeiriol Sant Columb
- Eglwys Gadeiriol Sant Eugene
- Guildhall
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]- Clwb pêl-droed Derry City F.C.
Pobl o Derry
[golygu | golygu cod]- Joyce Cary, awdur
- Nadine Coyle, cantores (Girls Aloud)
- Seamus Heaney, bardd
- John Hume, gwleidydd
- Josef Locke, canwr
- Martin McGuinness, dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon
- Martin O'Neill, rheolwr pêl-droed
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Briff Ymchwil - Y wybodaeth ddiweddaraf am adael yr Undeb Ewropeaidd" (PDF). 12 Chwefror 2018.
Ymweliad y Pwyllgor â Dulyn, Belffast a Dinas y Deri am sesiwn ddilynol ar gysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon.
- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
