Denmarc
| Kongeriget Danmark | |
| Math | gwladwriaeth, pŵer trefedigaethol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad, gwlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth Denmarc |
|---|---|
| Prifddinas | Copenhagen |
| Poblogaeth | 5,827,463 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Mae na Wlad Hyfryd, Kong Christian stod ved højen mast |
| Pennaeth llywodraeth | Mette Frederiksen |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Daneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Gogledd Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Gwledydd Nordig, Brenhiniaeth Denmarc, Llychlyn |
| Gwlad | Brenhiniaeth Denmarc |
| Arwynebedd | 42,925.46 ±0.01 km² |
| Gerllaw | Môr y Gogledd, Y Môr Baltig |
| Yn ffinio gyda | Sweden, Norwy, yr Almaen |
| Cyfesurynnau | 56°N 10°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Denmarc |
| Corff deddfwriaethol | Folketinget |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Denmarc |
| Pennaeth y wladwriaeth | Frederik X, brenin Denmarc |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Denmarc |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mette Frederiksen |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $398,303 million, $395,404 million |
| Arian | Krone Danaidd |
| Canran y diwaith | 7 ±1 canran |
| Cyfartaledd plant | 1.67 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.929 |
Mae Teyrnas Denmarc (Daneg: Kongeriget Danmark) neu Denmarc (Daneg:
Danmark ) yn deyrnas Lychlynnaidd fach yng ngogledd Ewrop. Mae Môr y Gogledd yn amgylchynu'r wlad, ag eithrio'r ffin ddeheuol â'r Almaen.
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Hanes Denmarc

Unwyd Denmarc yng nghyfnod y Llychlynwyr, yn y 10g, gan y brenin Harald Ddantlas († 985), a drodd y wlad at Gristnogaeth. Yn yr 11g, cymerodd Denmarc feddiant ar Loegr am gyfnod. Yn 1397, unodd a Sweden a Norwy. Parhaodd yr undeb a Sweden hyd 1523 a'r undeb a Norwy hyd 1814. Arferai Gwlad yr Iâ fod ym meddiant Denmarc hefyd, hyd nes iddi ddod yn annibynnol yn 1944. O 1940 hyd 1945, meddiannwyd Denmarc gan yr Almaen. Yn 1973 daeth yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys Jylland (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw Sjælland, Fyn, Lolland, Falster, Langeland, Als, Møn, Bornholm ac Amager. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw Møllehøj, 170.86 medr.
Saif y brifddinas ar ynys Sjælland ("Seeland"), sydd a chulfor Øresund yn ei gwahanu oddi wrth Sweden. Cysylltir Copenhagen a dinas Malmö yn Sweden gan Bont Øresund a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r Almaen yn y de.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]| Copenhagen | 502,204 | (1,086,762 yn yr ardal ddinesig) |
| Århus | 228,547 | |
| Odense | 186,595 | |
| Aalborg | 160,000 | |
| Esbjerg | 82,312 | |
| Randers | 55,897 | |
| Kolding | 54,526 | |
| Vejle | 49,782 | |
| Horsens | 49,457 | |
| Roskilde | 43,753 |

