Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd
| Enghraifft o: | ardal ddiwylliannol, grŵp daearwleidyddol |
|---|---|
| Dechreuwyd | Chwefror 1992 |
| Rhagflaenwyd gan | Yr Undeb Sofietaidd |
| Lleoliad | Estonia, Latfia, Lithwania, Casachstan, Cirgistan, Tajicistan, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Belarws, Moldofa, Wcráin, Rwsia, Armenia, Aserbaijan, Georgia |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05gcnj |
| Quora | Post-soviet-states-1 |

1. Armenia; 2. Aserbaijan; 3. Belarws; 4. Estonia;
5. Georgia; 6. Casachstan; 7. Cirgistan; 8. Latfia;
9. Lithwania; 10. Moldofa; 11. Ffederasiwn Rwsia; 12. Tajicistan;
13. Tyrcmenistan; 14. Wcrain; 15. Wsbecistan
Y 15 gwladwriaeth annibynnol a ddaeth allan o ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991 yw cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd.
Yn iaith wleidyddol Ffederasiwn Rwsia a rhai o gyn-weriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd, mae'r term y tramor cyfagos yn cyfeirio at y gweriniaethau newydd-annibynnol a ddaeth allan o ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd, ac weithiau gwledydd cyfagos eraill megis y Ffindir a Mongolia. Poblogeiddiodd Andrey Kozyrev, Gweinidog Tramor Rwsia, y term ar ddechrau'r 1990au i gyfeirio at ganolbarth a dwyrain Ewrop, a defnyddir y term yn aml, er enghraifft gan Vladimir Putin, i ddisgrifio ardal sydd yn strategol bwysig i Rwsia ac yn rhan o'i chylch dylanwad. Defnyddir i gyfeirio at nifer o wledydd yn Nwyrain Ewrop, y Cawcasws, Canolbarth Asia, ac hyd yn oed y gwledydd Baltig er bod y rhain yn tueddu i wahanu eu hunain o Foscfa ar y lwyfan ryngwladol heddiw.