Culfor Cook
Gwedd
| Math | culfor |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | James Cook |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Seland Newydd |
| Uwch y môr | 0 metr |
| Cyfesurynnau | 41.2294°S 174.4831°E |
![]() | |

Culfor rhwng Ynys y Gogledd ac Ynys y De yn Seland Newydd ydy Culfor Cook. Cysyllta â Môr Tasman i'r gorllewin a'r Cefnfor Tawel i'r dwyrain.
I'r de, rhed yr arfordir am 30 kilomedr (19 milltir) ar hyd Bae Cloudy, heibio i ynysoedd a mynedfeydd y Marlborough Sounds. I'r gogledd, rhed yr arfordir am 40 kilomedr (25 milltir) ar hyd Bae Palliser, gan groesi mynediad i harbwr Wellington, heibio i rai o faesdrefi Wellington gan barhau am 15 kilomedr (9.3 milltir) i draeth Makara.
Enwyd y culfor ar ôl y fforwr James Cook.
