Caesar von Hofacker
| Caesar von Hofacker | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Mawrth 1896 Ludwigsburg |
| Bu farw | 20 Rhagfyr 1944 Plötzensee Prison |
| Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen |
| Galwedigaeth | person milwrol, gwrthryfelwr milwrol |
| Tad | Eberhard von Hofacker |
| Mam | Albertine, Gräfin von Uxkull-Gyllenband |
Roedd Caesar von Hofacker (weithiau Cäsar;[1] 11 Mawrth 1896 – 20 Rhagfyr 1944) yn Is-gyrnol y Luftwaffe Almaenig ac yn aelod o gynllwyn 20 Gorffennaf yn erbyn Adolf Hitler.[2] Cyfieithodd Saunders Lewis ei enw fel Caisar von Hofacker, am ei fod yn un o gymeriadau'r ddrama Brad.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hofacker yn Ludwigsburg; ac roedd ei dad Eberhard von Hofacker yn gadfridog yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd Hofacker yn yr Luftstreitkräfte yn ystod y rhyfel, a'i ddal yn garcharor gan Ffrainc ar yr 20 Hydref 1918. Cafodd ei ryddhau ar yr 14 Mawrth 1920, pryd y dechreuodd astudio'r Gyfraith. Ymunodd â'r Der Stahlhelm, Bund der Frontsoldaten ym 1931.
Prif rôl Hofacker yn y cynllun a arweiniodd at yr ymgais i lofruddio Hitler yn y Wolf's Lair ar 20 Gorffennaf 1944 oedd gweithredu fel cyswllt cyfrinachol rhwng ei gefnder, Claus Graf Schenk von Stauffenberg, a chynllwyniwr arall ym Mharis. Roedd ganddo gyswllt ag Erwin Rommel gan fod Rommel wedi gwasanaethu o dan dad Hofacker yn y Rhyfel Byd Cyntaf. [3] Ceisiodd Hofacker gael Rommel i ymuno yn y cynllwyn, i waredu'r Almaen rhag galluoedd Hitler, ac er iddo roi ei gefnogaeth, ni chytunai y dylid lladd Hitler.
Ataliwyd Hofacker ym Mharis ar 26 Gorffennaf 1944, a'i gludo i bencadlys y Gestapo ym Merlin lle cafodd ei arteithio'n ddifrifol. Yn ôl William Shirer yn The Rise and Fall of the 3rd Reich, fe ildiodd enw Rommel gan ddatgan ei fod wedi rhoi ei gefnogaeth i'r cynllun. Gorfodwyd Rommel i gyflawni hunanladdiad. Rhoddwyd Hofacker ar brawf o flaen y Volksgerichtshof. Fe'i cafwyd yn euog o frad a'i ddedfrydu i farwolaeth. Cafodd ei grogi yng ngharchar Plötzensee ym Merlin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cäsar von Hofacker (1896-1944) - Find a Grave..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-23.
- ↑ "Roland von Hoesslin". www.jewishvirtuallibrary.org. Cyrchwyd 2024-03-09.
- ↑ Caddick-Adams, Peter (2011). Monty and Rommel: Parallel Lives. Preface Publishing. ISBN 978-1-84809-152-8.