Australopithecus
| Delwedd:Australopithecus afarensis („Lucy) Rekonstruktion.jpg, Australopithecus couple.jpg, Australopithecus sediba (Fundort Malapa).jpg, Australopithecus Afarensis - Transparent Background.png | |
| Enghraifft o: | ffosil (tacson) |
|---|---|
| Safle tacson | genws |
| Rhiant dacson | Australopithecinae, Australopithecina |
| Dechreuwyd | Mileniwm 4500. CC |
| Daeth i ben | Mileniwm 1977. CC |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0gnvv |
| Quora | Australopithecus |
| Australopithecus Amrediad amseryddol: Pliosen hwyr–Pliosen cynnar | |
|---|---|
| Australopithecus africanus | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Primates |
| Teulu: | Hominidae |
| Genws: | Australopithecus |
| Teiprywogaeth | |
| †Australopithecus africanus Dart, 1925 | |
| Rhywogaeth | |
|
†A. africanus | |
Genws o ddynolion a esblygodd yn nwyrain Affrica tua 4 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw Australopithecus ac a ddaeth i ben tua 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwnnw o ddwy filiwn o flynyddoedd, ymddangosodd sawl rhywogaeth gan gynnwys: Australopithecus afarensis, A. africanus, A. anamensis, A. bahrelghazali, A. deyiremeda (argymhelliad yn unig), A. garhi, ac A. sediba..
Ystyr y gair, a fathwyd yn 1925 gan yr anthropolegydd Raymond A. Dart, yw ‘epa deheuol’ (Lladin austrālis ‘deheuol’ + Hen Roeg píthēkos (πίθηκος) ‘epa’).
Chwaraeodd rhywogaethau o Australopithecus le pwysig yn esblygiad bodau dynol; yn wir, o'r Australopithecus y datblygodd y genws Homo, oddeutu 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Rhain oedd y dynolion cyntaf lle gwelir ynddynt y gennyn hwnnw sy'n galluogi niwronau hir a chryf i dyfu o fewn yr ymennydd, sef yr SRGAP2.[1] Felly, trodd yr australopith yn Homo (e.e. Homo habilis) tua dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl ac yna'n fodau dynol modern (H. sapiens sapiens).[2]
-
Map o'r safleoedd lle cafwyd hyd i ffosiliau o Australopithecus
-
Adluniad o Australopithecus afarensis, un o'r genws Australopithecus
-
Penglog wreiddiol ‘Mrs. Ples’, benyw A. africanus
-
‘Lucy’, un o sgerbydau enwoca'r byd; A. afarensis
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Reardon, Sara (2012), "The Humanity Switch", New Scientist (AU/NZ), 12 May 2012 No. 2864, tt. 10–11. ISSN 1032-1233
- ↑ Toth, Nicholas and Schick, Kathy (2005). "African Origins" in The Human Past: World Prehistory and the Development of Human Societies (Golygydd: Chris Scarre). Llundain: Thames and Hudson. Tud. 60. ISBN 0-500-28531-4