Android
Gwedd
| Math | robot dynoid |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0j8p |
| Thesawrws y BNCF | 50858 |
- Mae'r erthygl yma am y bod dynol artiffisial. Am ystyron eraill, gweler Android (gwahaniaethu).
Robot neu greadur artiffisial arall sydd ag ymddangosiad bod dynol yw android. Yn hanesyddol, dim ond ym maes ffuglen wyddonol yr oedd androidau'n bodoli ac fe'u gwelwyd yn aml fel cymeriadau mewn ffilm a theledu, ond mae datblygiadau diweddar mewn technoleg robotiaid wedi caniatáu dylunio robotiaid dynol swyddogaethol a realistig.