Neidio i'r cynnwys

1927

Oddi ar Wicipedia

19g - 20g - 21g
1870au 1880au 1890au 1900au 1910au - 1920au - 1930au 1940au 1950au 1960au 1970au
1922 1923 1924 1925 1926 - 1927 - 1928 1929 1930 1931 1932


Digwyddiadau

[golygu | golygu cod]

Genedigaethau

[golygu | golygu cod]

Marwolaethau

[golygu | golygu cod]

Y celfyddydau

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Saesneg

[golygu | golygu cod]

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol (Caergybi)

[golygu | golygu cod]

Gwobrau Nobel

[golygu | golygu cod]

Tywydd

[golygu | golygu cod]
  • Cofnod o hanes y gwynt mawr, a'r don fawr, ar ddydd Gwener Hydref 28, 1927, o Borthmadog i Dalsarnau, a Maentwrog:
”Y storm a nodir uchod oedd y fwyaf a ddigwyddodd erioed hyd y gwyddom, ac nid gormodiaeth a fydd dim o'r hanes hwn a adroddir amdani, ond rhy brin a chynil. Ar ôl 2 o'r gloch y nawn cododd y gwynt yn raddol o'r De. Ar ôl 6 yr hwyr, cynyddodd wedyn, ac yr oedd yn ei nerth dychrynllyd rhwng 8 a 10, yna graddol leihaodd erbyn 12eg. Rhwng 8 a 9 daeth ton anferth (tidal wave) i Borthmadog, Talsarnau, a Maentwrog. Rhedodd i mewn i'r tai yn y rhannau isaf o Borthmadog gan beri dychryn mawr. Yn y cyfamser oherwydd methu dal ei phwysau, torrodd Cob y Llyn Bach yn fwlch tua 100 llath o hyd, a thynnodd hynny y don yn ôl nes y rhedodd i'r Traeth Mawr, ac oni bae hynny, ni wyr neb faint o ddifrod, a choll ar fywydau fuasai wedi digwydd yn y dre. Gwnaeth anrhaith fawr ar ben y Cob Mawr hefyd. Maluriwyd gwely Reilffordd Gul Ffestiniog ar ei ben, fel y bu raid ei hadgyweirio o ddydd Sadwrn hyd nos Lun, cyn y gellid mynd a thren y gweithwyr fore Mawrth i fynny. Taflodd y don y wal gul wrth ben, buasent yn mesur tua hanner y Cob. Bu amryw o motor lorries yn cludo'r ysbwriel ymaith o fore Sadwrn, hyd ddydd Llun. Taflodd y gwynt y rhan fwyaf o bolion pellebyr [sic. teligraff] llinell y G.W.R, i lawr rhwng gorsaf Porthmadog a Minffordd.
Yr oedd y dŵr yn uwch o lawer na platform gorsaf y Penrhyn, a safai pobl ar feinciau, bocsus etc, i aros y tren yno. Tarodd y prif bibell ddwr yn ymyl y Gwaith Pylor gerllaw, a golchodd y don fawr dros y reilffordd a Phont Briwet, ac ysigodd y bont, a maluriodd y fences o bobtu, a thynodd y rwbel mewn llawer man odditan y reilffordd. O ochr Talsarnau i'r bont, ysgubodd y cob, sef gwely uchel y reilffordd yn glir ymaith, ac ystumiwyd y reiliau yn bob llun, a hongiai y slippers wrthynt yma ac acw, hyd orsaf Talsarnau, a bu cannoedd o ddynion yn ei thrwsio am tua pythefnos. Boddodd cannoedd o ddefaid, amryw wartheg, moch, ieir etc o gẃr ynys Llanfihangel hyd Glan y Wern, a Bron Tecwyn, ac ymhen rhai dyddiau wedi i'r dwr dreio, casglwyd cymaint ag a gafwyd o honnynt at eu [sic] gilydd yn un pentwr mawr, a thywalltwyd paraffin ar domen o goed i'w llosgi ar gae ger Capel Bron Tecwyn. Chwalwyd pob clawdd cerrig o'r Penrhyn hyd Dalsarnau, a llanwyd pob gwrych, gwifrau pigog, wire netting, â gwair, gwellt, brwyn etc. Chwalwyd cloddiau terfyn o bridd, neu dros y Cob mawr, drwy i garreg, neu rywbeth ei tharo. Gan y digwyddai fod y galw am gynyrch chwarel setts Minffordd yn isel ar y pryd, bu'r difrod ar reilffordd y G.W.R, o fantais i'r gwaith, oherwydd cludwyd oddiyno filoedd o dunelli o bob math gerrig i fyny i rai o ddwy i dair tunell o bwysau, i lanw agenau a wnaed yngwely y ffordd gan y don fawr, a'r môr, a buwyd yn eu cludo am fisoedd o dro i dro, oddi yno.” (Mwy am y storm hwn yn y Tywyddiadur.)[14]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Stolworthy, Jacob (7 Ionawr 2022). "Legendary actor Sidney Poitier, first Black man to win Best Actor Oscar, dies aged 94". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  2. Peter Stanford (31 Rhagfyr 2022). "Pope Benedict XVI obituary". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  3. Fordham, John (25 Gorffennaf 2025). "Dame Cleo Laine obituary". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  4. Robert Thomas Jenkins. "DILLWYN, DILLWYN-LLEWELYN, (DILLWYN) VENABLES-LLEWELYN". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  5. "Biography". Mary Webb Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  6. Martha P. Nochimson (2011). World on Film: An Introduction (yn Saesneg). Wiley. t. 119. ISBN 9781444358339.
  7. Style and Meaning: Studies in the Detailed Analysis of Film (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Manceinion. 2005. t. 127. ISBN 9780719065255.
  8. Islwyn Ffowc Elis. "Davies, Edward Tegla (1880-1967), gweinidog (EF) a llenor". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  9. Richard Bryn Williams. "Hughes, William Meloch". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  10. Gerallt Jones. "Evans, William ('Wil Ifan' 1883-1968), gweinidog (A. Saesneg), bardd a llenor yn Gymraeg a Saesneg". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  11. "The Withered Root by Rhys Davies". Tate. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  12. David Gwenallt Jones. "Jones, Richard Idwal Mervyn (1895-1937), athro ysgol, bardd, a dramodydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  13. Williams, John Ellis (1927). Y Corn. J.D. Davies, Blaenau Ffestiniog.
  14. Papurau Ioan Brothen LlGC