Neidio i'r cynnwys

Rownd a Rownd

Oddi ar Wicipedia
Rownd a Rownd
Enghraifft o:cyfres deledu Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dechreuwyd11 Medi 1995 Edit this on Wikidata
Genreopera sebon Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.s4c.cymru/cy/drama/rownd-a-rownd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/026d78k edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Set ffilm ar gyfer Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy

Opera sebon ar S4C yw Rownd a Rownd, sy'n cael ei gyfeirio tuag at bobl ifanc.

Darlledwyd y bennod gyntaf ym mis Medi 1995 a chafodd ei chynhyrchu gan Ffilmiau'r Nant, ond nawr fe'i gynhyrchir gan gwmni Rondo.[1] Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Cafodd ei ddarlledu'n wreiddiol fel dwy bennod chwarter awr pob wythnos drwy'r flwyddyn. Darlledwyd 1,000fed bennod y gyfres ar nos Fawrth 14 Ionawr 2014.[2] Yn 2016 dathlodd y gyfres ei 21ain benblwydd.

Seren hiraf y gyfres oedd Dewi 'Pws' Morris a chwaraeodd rhan Islwyn Morgan, perchennog y siop bapur ers dechrau'r gyfres ym 1995; gadawodd y gyfres yn 2007.

Ym mis Medi 2025, dathlwyd y rhaglen ei phen-blwydd yn 30 oed.[3]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Roedd Rownd a Rownd yn wreiddiol yn seiliedig ar bobl ifanc a oedd yn gwneud rownd bapur; mae'r teitl y cyfres yn cyfeirio hefyd at gylchdro olwynion beic. Ers hynny mae wedi tyfu i gynnwys eu bywyd dydd i ddydd mewn ysgol a theulu.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rownd a Rownd Archifwyd 2018-09-10 yn y Peiriant Wayback ar wefan Rondo
  2. 1000! Erthygl ar wefan Rownd a Rownd/S4C
  3. Angharad Rhys (11 Medi 2025). "Angharad Llwyd: Cast Rownd a Rownd yn 'un teulu mawr'". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 12 Medi 2025.
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato