Neidio i'r cynnwys

Cymuned (Ffrainc)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Cymunedau Ffrainc)
Cymuned
Enghraifft o:math o adran weinyddol Ffrainc Edit this on Wikidata
Mathcymuned, etholaeth, awdurdod lleol yn Ffrainc, LAU 2, israniad gwlad weinyddol pedwaredd lefel Edit this on Wikidata
Rhan oarrondissements Ffrainc, établissement public de coopération intercommunale Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1789 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddQ121338772 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o communes Ffrainc.

Cymuned (Ffrangeg: commune) yw'r haen isaf o lywodraeth leol yn Ffrainc. Ar 1 Ionawr 2008, roedd 36,781 ohonynt yn Ffrainc, 36,569 o'r rhain ar dir mawr Ffrainc a 212 yn y départements tramor.

Fel gyda cymunedau Cymru, mae'r cyfan o Ffrainc wedi ei rhannu yn communes. Fodd bynnag, mae'r amrywiaeth mewn maint yn llawer mwy yn Ffrainc; y commune mwyaf yw dinas Paris, tra mae rhai communes eraill a phoblogaeth o ddeg person neu lai. Ar gyfartaledd, mae gan commune yn Ffrainc ei hun arwynebedd o 14.88 km² (5.75 milltir sgwâr neu 3,676 acer). Ar gyfartaledd, roedd poblogaeth commune yn 380. Mae llai na 500 o bobl yn byw yn 57.4% o'r communes.

Cyd-destun

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y cymunedau adeg y Chwyldro Ffrengig i gymryd lle y plwyfi er mwyn torri'r cysylltiad rhwng yr Eglwys â'r Wladwriaeth mewn ymgyrch seciwlar. Gellid cymharu'r communes, yn fras iawn, â Chynghorau Cymuned Cymru.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.